Beth dan ni'n gynnig?
Dan ni'n cynnig hyfforddiant Cymraeg ar-lein deniadol a phersonol i oedolion, gan eich cynorthwyo ar bob cam o'ch taith.
Waeth beth yw eich man cychwyn, gallwn roi arweiniad i chi. Dewiswch o wersi unigol neu sesiynau wedi'u teilwra i ddiwallu'ch anghenion a'ch cyllideb.
Rhowch hwb i'ch sgiliau iaith gydag ymarfer sgwrsio. Dan ni'n gyfeillgar ac yma i'ch helpu chi i ragori mewn sgyrsiau Cymraeg go iawn.
Os yw eich sgiliau iaith yn teimlo'n rhydlyd, peidiwch â phoeni! Dan ni'n arbenigo mewn adolygu'ch sgiliau ac adfer eich rhuglder mewn dim o amser.
Ansicr o'ch lefel hyfedredd? Dim problem! Gall ein hasesiad roi mewnwelediadau cywir, gan ganiatáu i ni addasu cynllun dysgu ar eich cyfer chi yn unig.
Wedi colli ychydig o wersi? Gallwn helpu! Byddwn ni'n canolbwyntio ar y meysydd y mae angen ichi ddal i fyny arnynt, gan eich helpu i adennill eich momentwm.
Dan ni'n cefnogi dysgwyr sy'n siarad Cymraeg y de a'r gogledd, gan greu amgylchedd cyfforddus a chynhwysol ar gyfer eich datblygiad Cymraeg ffyniannus.
Barod am daith Gymraeg gyffrous? Cysylltwch â ni heddiw!
​
Pam dysgu gyda ni?
​
-
Gyda bron i 30 mlynedd o brofiad addysgu ar bob lefel byddwch mewn dwylo diogel
-
Cewch eich dysgu gan siaradwr Cymraeg brodorol
-
Gallwn deilwra gwersi i'ch anghenion
-
Yn ogystal â dysgu’r iaith i chi gallwn eich helpu i gael cipolwg ar ddiwylliant a thraddodiadau Cymru
-
Gallwn gynnig gwersi ar bob lefel - o sesiynau blasu i hyfedredd
-
Bydd ein gwersi sydd wedi’u strwythuro’n fanwl yn eich helpu i ddatblygu eich hyder wrth ddefnyddio’r iaith
-
P'un ai dach chi am ddefnyddio'ch Cymraeg yn y gogledd neu'r de, mae gennym brofiad o ddysgu'r ddwy dafodiaith
-
Rydym yn cynnig cyfraddau cystadleuol fesul awr
Sut gall TheWelshWorks fy helpu?
Arweiniad wedi'i bersonoli
Gall TheWelshWorks asesu eich cryfderau a’ch gwendidau, teilwra gwersi i’ch anghenion penodol, a darparu adborth a chefnogaeth unigol ar hyd eich taith dysgu iaith.
Rhyngweithio yn y fan a'r lle
Gyda ni cewch chi ymarfer sgwrsio Cymraeg yn y fan a'r lle, gan ganiatáu i chi gymryd rhan mewn deialogau ystyrlon, gofyn cwestiynau, a derbyn cywiriadau ac esboniadau ar unwaith.
Gwella ynganu
Gallwn eich helpu i fireinio eich ynganiad Cymraeg drwy gynnig ymarferion wedi’u targedu a chywiro unrhyw wallau, gan sicrhau eich bod yn datblygu acen ddilys.
Golwg ar ddiwylliant
Bydd cael siaradwr Cymraeg brodorol wedi’i leoli lle mae’r Gymraeg yn ffynnu yn rhoi cyd-destun diwylliannol i chi a mewnwelediadau sy’n gwella eich dealltwriaeth o’r iaith.
Atebolrwydd a chymhelliant
Mae sesiynau rheolaidd gyda TheWelshWorks yn rhoi atebolrwydd a chymhelliant i chi, gan eich cadw ar y trywydd iawn ac annog cynnydd cyson.
Eglurhad yn y fan a'r lle
Pan fyddwch chi'n dod ar draws anawsterau neu os oes gennych chi amheuon, gallwn egluro cysyniadau a mynd i'r afael â'ch cwestiynau ar unwaith, gan ddileu dryswch a hyrwyddo dealltwriaeth gyflymach.
Deunydd dysgu wedi eu teilwra i chi
Gallwn greu neu argymell deunyddiau sydd wedi'u teilwra i'ch diddordebau, gan sicrhau profiad dysgu mwy deniadol a pherthnasol.
Cyflymder dysgu hyblyg
Mae gennym yr arbenigedd i addasu'r gwersi i'ch cyflymder dysgu, gan ganiatáu i chi dreulio mwy o amser ar bynciau heriol a symud ymlaen yn gyfforddus.
Cywiro camgymeriadau
Gallwn adnabod a chywiro camgymeriadau dach chi'n ymwybodol ohonyn nhw, gan eich helpu i wella cywirdeb a rhuglder eich Cymraeg.
Cefnogaeth
Gall dysgu iaith fod yn heriol, a gallwn ni yn TheWelshWorks roi anogaeth, arweiniad ac atgyfnerthiad cadarnhaol, gan feithrin amgylchedd dysgu cefnogol.
Martin Gwynedd ydy'r tiwtor ac athro profiadol a sylfaenodd TheWelshWorks. Gyda gyrfa addysgu yn ymestyn dros 29 mlynedd, mae Martin wedi hogi ei sgiliau fel tiwtor a mentor ac mae ganddo dros 20,000 o oriau o brofiad. Mae wedi arwain dysgwyr ifanc ac oedolion ar eu taith ieithyddol.
Yn wreiddiol o Wynedd, symudodd Martin i Gaerdydd yn nechrau'r 80au. Gan ddarganfod angerdd am ddysgu Cymraeg i oedolion, dechreuodd ar diwtora rhan amser yn 1994. Taniodd y profiad hwn ei uchelgais, gan ei arwain iat ddilyn gyrfa addysgu ac ennill gradd BA(Ed) ym 1999.
Gydag 17 mlynedd o ddysgu a phrofiad pennaeth adran mewn ysgolion uwchradd yng Nghaerdydd, mae arbenigedd Martin wedi hen ennill ei blwyf. Ers 2017, mae wedi ymroi i ddysgu Cymraeg i oedolion yn unig , gan bontio’n ddi-dor rhwng addysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb i ddarparu addysg ar gyfer dewisiadau dysgu amrywiol.
Mae dull addysgu Martin yn addasadwy ac effeithiol, wedi'i deilwra i weddu i arddull unigryw pob dysgwr. Mae'n sicrhau profiad addysgol personol a deniadol trwy addasu'r cyflymder, y cynnwys a'r ymarferion i gyd-fynd â chynnydd a hoffterau myfyrwyr.
Wrth wraidd athroniaeth addysgu Martin mae cyfathrebu clir. Mae'n rhagori mewn egluro cysyniadau gramadegol cymhleth yn syml, gan alluogi myfyrwyr i amgyffred cymhlethdodau'r Gymraeg. Mae gan Martin arddull cefnogol a sylwgar sy'n meithrin amgylchedd croesawgar. Mae hyn yn ei dro yn annog cwestiynau ac adborth adeiladol, gan feithrin yr amodau gorau posibl ar gyfer twf a chyflawniad dysgwyr.
Hoffwn i wybod...
Pa mor hir mae'n ei gymryd i ddysgu Cymraeg?
Cwestiwn anodd! Mae hyn yn dibynnu ar sawl ffactor - pa mor benderfynol dach chi, faint o oriau'r wythnos dach chi'n eu neilltuo i'ch astudiaethau, faint o gysylltiad sydd gynnoch chi â'r iaith bob dydd o'ch cwmpas. Gall ansawdd y cymorth a gewch gan eich tiwtor gael effaith aruthrol hefyd. Edrychwch ar ein Syniadau Da ar gyfer dysgu Cymraeg.
Ydy eich dosbarthiadau i gyd ar lein?
Mae pob un o'n sesiynau ar-lein. 'Dan ni'n defnyddio Zoom. Dan ni'n credu mai dyma'r dull mwyaf effeithiol o ddysgu Cymraeg. Mae'n gyfleus, yn gost-effeithiol ac yn gyfeillgar i'r amgylchedd.
Faint dach chi'n godi?
Mae hyn yn amrywio, yn dibynnu ar natur y sesiwn. Mae ein sesiwn blasu er enghraifft yn costio £20 am un awr. Am wersi wedi'u teilwra'n arbennig dan ni'n codi fymryn mwy gan bydd yn cymryd mwy o amser i baratoi gwers yn arbennig ar eich cyfer chi.
Dach chi'n medru dysgu Cymraeg y gogledd a'r de?
Ydan wir. A ninnau wedi dysgu Cymraeg yn y gogledd a'r de dan ni'n gymwys i'ch helpu i ddysgu patrymau'r naill dafodiaith neu'r llall.
Dach chi'n cynnig gwersi i blant?
Mae ein gwersi ar gyfer y rhai dros 18 yn unig. Os dach chi'n chwilio am diwtor ar gyfer plentyn o oedran ysgol rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu ag ysgol eich plentyn. Dylen nhw allu eich rhoi mewn cysylltiad â thiwtor addas.
Dach chi'n cynnig gwersi i bobl sy tu allan i'r DU?
Ydan. Gyda gwersi Cymraeg rhithwir bellach i'w cael mor rhwydd mae yna ddysgwyr Cymraeg ar draws y byd. Byddem yn ymdrechu i ddarparu gwers i chi ar amser sy'n gyfleus i bawb.
Ein harlwy
Dosbarthiadau at ddant pawb a phob achlysur
Syniadau da ar gyfer dysgu Cymraeg yn llwyddiannus
Mynnwch diwtor â phrofiad
Cyn ymrwymo i wersi Cymraeg, gofynnwch i'ch tiwtor am eu profiad dysgu a'u cymwysterau.
Mae dysgu Cymraeg gyda thiwtor profiadol yn cynnig manteision amhrisiadwy. Mae ehangder eu profiad yn dod â mewnwelediad i naws yr iaith, y cyd-destun diwylliannol, a thechnegau addysgu effeithiol. Maen nhw'n medru addasu i arddulliau dysgu unigol, gan ddarparu arweiniad personol a chreu amgylchedd cefnogol ar gyfer caffael iaith yn gyflym.
Dechreuwch ddefnyddio'r Gymraeg yn y byd go iawn cyn gynted â phosibl
Defnyddiwch ychydig eiriau yn gyntaf. Yna magwch hyder trwy ddefnyddio ychydig mwy o frawddegau fesul wythnos. Os gallwch chi, dewch o hyd i un person y gallwch chi ymarfer â nhw - rhywun y gallwch ymddiried ynddo na fydd yn eich beirniadu. Os nad ydych chi'n byw yng Nghymru neu'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i siaradwyr Cymraeg yn eich ardal chi, dewch o hyd i ddosbarth sgwrsio Cymraeg ar-lein.
Dysgwch dameidiau ar y tro
Mae'n fwy effeithiol dysgu ychydig, yn aml na 'dysgu mewn pyliau' unwaith yr wythnos. Neilltuwch ychydig o 'amser fi' bob dydd pan fyddwch chi'n gwneud ymarferion Cymraeg, darllen a dysgu geirfa. Dan ni hefyd yn argymell y dechneg ailadrodd bylchog yn fawr. Mae hyn yn golygu defnyddio cardiau fflach sy'n ailadrodd geirfa anodd yn amlach. Mae llawer o lwyfannau yn cynnig y math hwn o ddysgu hwn gan ddefnyddio cardiau fflach.
Ymarferwch eich sgiliau gwrando
Bydd gwylio rhaglenni teledu Cymraeg gydag isdeitlau yn dod â'ch clustiau at rythmau a ffurfdroadau'r iaith. Rhowch BBC Radio Cymru ymlaen yn y cefndir tra'ch bod chi'n gyrru neu'n gwneud gwaith tÅ·. Mae'r math hwn o 'wrando goddefol' yn cael mwy o effaith nag y byddech chi'n ei feddwl.
Defnyddiwch fwy nag un dull o ddysgu
Mae rhai o'r dysgwyr mwyaf llwyddiannus dan ni wedi cwrdd â nhw yn dysgu gan ddefnyddio sawl platfform ochr yn ochr. Maen nhw'n defnyddio ap, yn darllen llawer ac mae ganddyn nhw diwtor hefyd. Bydd hyn yn cymryd cryn ymrwymiad ond os dach chi am feistroli'r iaith yn yr amser byrraf posibl mae'n werth ei wneud.
Darllenwch lyfrau i siaradwyr newydd
'Dan ni'n hoffi iawn o ddarllen TheWelshWorks. 'Dan ni wrth ein bodd â chyfres 'Amdani' o lyfrau graddedig ar gyfer siaradwr newydd yr iaith. Mae gweld yr iaith mewn du a gwyn ar dudalen yn atgyfnerthu'r patrymau dach chi'n ceisio'u meistroli.
Gocheler rhag yr ysfa am berffeithrwydd
Mae'n bosibl mai dysgu iaith yw'r peth mwyaf cymhleth wnewch chi fel oedolyn. Yn amlwg dach chi eisiau gwneud pethau'n iawn pan fyddwch chi'n dechrau siarad Cymraeg. Ond peidiwch â gadael i'ch ysfa am berffeithrwydd amharu ar eich rhuglder. Derbyniwch y byddwch chi'n cael pethau'n anghywir pan fyddwch chi'n defnyddio'r iaith gyda siaradwyr brodorol am y tro cyntaf. Ond wyddoch chi beth? Fydd dim ots gan neb am eich camgymeriadau. Bydd pobl bron yn ddieithriad yn cael eu swyno gan eich ymdrechion ac yn ymateb yn gadarnhaol i chi.
Cysylltwch â ni
Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn dysgu efo ni, e-bostiwch
martin@the welsh.works neu defnyddiwch y ffurflen ar y dudalen hon.
Mi wnawn ni ymateb cyn gynted ag y medrwn.
Diolch yn fawr!
​